Rhostio cig yw’r traddodiad oesol o goginio naill a’i mochyn neu oen cyfan yn araf dros fflam agored sy’n arwain ar gynnyrch sy’n llaith ac yn flasus. Os nad ydych wedi cael profiad o rost ffres, paratowch eich hun ar gyfer gwledd llawn blas a fydd yn newid y ffordd rydych chi’n meddwl am gig moch!
Rhostio ar draws Gogledd Orllewin Cymru
Wedi’n lleoli yn Llanrwst, Conwy, rydym mewn lleoliad delfrydol i wasanaethu Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae’n archebion yn cynnwys ymweliadau rheolaidd gyda Thref Conwy, Llandudno, Bangor, Caernarfon, Llanberis, Bae Colwyn, Llanelwy, Abergele, Ynys Môn, Betws y coed, ac wrth gwrs, ein tref ni sef Llanrwst yn yr hyfryd Ddyffryn Conwy.
Rydym yn fwy na bodlon teithio ychydig ymhellach i ddarparu ar gyfer priodasau neu ddigwyddiadau eraill, ond mi fydd costau teithio yn cynyddu.
Rhost mochyn ar gyfer eich priodas, parti neu ddigwyddiad
Rhost mochyn
Mae hyblygrwydd a gwreiddioldeb hog mewn unrhyw ddigwyddiad yn brofiad fyth gofiadwy. Bydd gwesteion yn cael eu swyno gan y golwg, yr arogl ac wrth gwrs – blas y mochyn rhost. Bydd mochyn cyfan yn bwydo hyd at 100 o unigolion am gost o £550 yn unig, dim costau cudd.
Fel cwmni profiadol rydym yn barod iawn i ddarparu a’ch gwasanaethu ar gyfer priodasau, digwyddiadau corfforaethol neu bartïon o unrhyw faint a siâp. Fel rhan o’r gwasanaeth byddwn yn darparu’r isod:-
- Mochyn o gigydd A.L. & R.O. Jones, Llanrwst, wedi ei halltu, ei bastio’n rheolaidd a’i rhostio i berffeithrwydd
- Cogydd hynod brofiadol i goginio a cherfio eich cig ar amser sy’n addas i chi
- Un aelod o staff ychwanegol i weini mewn steil bwffe
- Rydym yn darparu pabell a’r holl offer gweini
- Eich dewis chi o roliau bara ffres gan ein pobydd lleol Scilicorns
- Stwffin saets a nionyn cartref
- Saws afal a theim
- Platiau tafladwy, cyllyll, ffyrc a napcyn.
- Clirio’r holl wastraff a mynd a fo o’r lleoliad gyda ni
- Am gost o £550 mae modd bwydo hyd at 100 o bobl
- Gallwn gyflenwi hog llai ar gyfer achlysuron gyda llai o niferoedd.
Rhost cig oen
Os na fydd rhost mochyn yn apelio neu, fel llawer o’n cleientiaid, rydych chi wedi mwynhau rhostio mochyn o’r blaen a hoffech chi roi tro a’r rhywbeth bach yn wahanol, rhost cig oen fydd y dewis delfrydol i chi.
Yn llawn blas dwys, bydd rhost cig oen yn bwydo hyd at 50 o bobl am gost o £450, heb unrhyw gostau ychwanegol cudd.
- Cig oen Cymreig o’r ardal, efo rhosmari a garlleg, wedi’i bastio’n rheolaidd mewn sudd coginio
- Cogydd hynod brofiadol i goginio a cherfio eich cig ar amser sy’n addas i chi
- Un aelod o staff ychwanegol i weini mewn steil bwffe
- Rydym yn darparu pabell a’r holl offer gweini
- Eich dewis chi o roliau bara ffres gan ein pobydd lleol Scilicorns
- Iogwrt mint cartref
- Platiau tafladwy, cyllyll, ffyrc a napcyn
- Clirio’r holl wastraff a mynd a fo o’r lleoliad gyda ni
- Am gost o £450 bydd hyd at 50 o bobl yn cael eu bwydo
Ychwanegiadau dewisol i gyd-fynd â’ch rhost
Am gost isel ychwanegol, gallwn ddarparu amrywiaeth o fwydydd i gyd fynd a’ch gwledd draddodiadol. Gweler y rhestr isod. Os oes gennych ddymuniadau am unrhyw opsiynau gwahanol yna codwch y ffon am sgwrs i drafod.
- Salad seleriac a swêds (rwdan)
- Couscous Moroco
- Coleslaw
- Salad tatws newydd
- Tabbouleh
- Salad Moron sbeislyd
Gwnewch ymholiad yn awr
Os oes gennych ymholiadau pellach neu yn dymuno archebu rhost mochyn ar gyfer eich parti priodas neu ddigwyddiad, cysylltwch â ni am sgwrs. Mae ein dyddiadur ar agor ac edrychwn ymlaen at eich gwasanaethu.
