Mochyn Rhost – Gogledd Cymru
Traddodiad oesol o goginio naill ai mochyn cyfan neu ddarn mawr o gig yn araf dros dân agored gan greu tamaid brau a blasus sy’n tynnu dŵr i’ch dannedd. Os nad ydych chi wedi cael y fraint o fwynhau mochyn rhost yn barod, mae’n werth ei weld a’i arogli. Byddwch yn barod i fwynhau gwledd flasus dros ben a bydd yn bendant yn newid eich barn am borc!
Rhostio ledled Gogledd Cymru
Mae pencadlys ein cwmni, Popty Pig yn Llanelian, Conwy, sy’n lleoliad delfrydol i allu cynnig ein gwasanaeth i bobl ym mhob cwr o Ogledd Cymru, ond gallwn deithio ymhellach yn ogystal. Rydym yn ymweld â Chonwy, Llandudno, Bangor, Caernarfon, Llanberis, Bae Colwyn, Llanelwy, Abergele, Ynys Môn a Betws y Coed yn rheolaidd, ac wrth gwrs ein tref enedigol, Llanelian yn Nyffryn Conwy godidog.
Mochyn Rhost ar gyfer eich Priodas, Parti neu Ddigwyddiad
Rydym yn brofiadol dros ben ac yn barod iawn i arlwyo ar gyfer priodasau, digwyddiadau corfforaethol neu bartïon o bob math.
Rydym yn fodlon teithio ychydig ymhellach i arlwyo ar gyfer priodasau neu ddigwyddiadau eraill ond cofiwch gallai fod tâl ychwanegol am deithio.
Byddwn yn darparu’r canlynol gyda phob archeb:
- Cogydd profiadol a chymwys i goginio a thorri’ch cig ar adeg sy’n gweddu ichi.
- Un aelod o staff ychwanegol i weini bwffe.
- Byddwn yn darparu’r gasebo a’r holl gyfarpar gweini.
- Porc Blasus neu Gig Oen maes lleol gan gigyddion A.L & R.O Jones.
- Eich dewis chi o roliau bara ffres o’n becws lleol Scilicorns.
- Platiau, cyllyll a ffyrc a napcynau tafladwy o ansawdd da; Mae modd eu hailgylchu (dim plastig!)
- Byddwn yn cael gwared ar yr holl wastraff.
Mochyn Rhost Cymreig
Mae mochyn rhost yn ddewis hyblyg a gwreiddiol gwych ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Bydd yn wledd i’r llygaid, i’r ffroenau, i’r clustiau ac wrth gwrs i’r geg. At hyn, bydd un mochyn mawr yn bwydo hyd at 100 o bobl – am gost resymol dros ben o £800
- Mochyn Cymreig maes o gigyddion A.L & R.O Jones, wedi’i halltu, ei wlychu gyda’r sudd yn rheolaidd a’i rostio’n berffaith.
- Stwffin saets a nionyn.
- Saws afalau Bramley.
- £800 ac yn bwydo hyd at 100 o bobl.
Cig Oen Rhost Cymreig
Os nad ydych chi awydd mochyn rhost, neu fel llawer o’n cleientiaid, rydych chi wedi mwynhau mochyn rhost o’r blaen ac yn awyddus i gynnig rhywbeth mymryn yn wahanol i’ch gwesteion, byddai cig oen rhost yn ddewis delfrydol ichi.
Mae cig oen rhost yn llawn blas a byddai’n bwydo hyd at 50 o bobl am ddim ond £600 (Gallai’r pris amrywio yn ôl cost y cyflenwr)
- Cig oen maes Cymreig lleol, gyda Rhosmari a garlleg, halen a phupur i ychwanegu blas ac wedi’i wlychu â’r sudd yn rheolaidd.
- Eich dewis chi o roliau bara ffres o’n becws lleol Scilicorns.
- Iogwrt Mint.
Ychwanegion dewisol i Gyd-fynd â’ch Mochyn Rhost
Am ffi fach ychwanegol gallwn hefyd ddarparu amrywiaeth o brydau bach blasus, wedi’u paratoi gyda llaw, i gyd-fynd â’ch gwledd draddodiadol sydd wedi’i rhostio’n ffres. Ond os oes gennych chi rywbeth penodol mewn golwg, ffoniwch ni am sgwrs ac fe wnawn ni ymdrechu hyd eithaf ein gallu i fodloni’ch gofynion!
Cysylltwch i holi
Os hoffech chi holi ynghylch mochyn rhost neu drefnu un ar gyfer eich priodas, parti neu ddigwyddiad, mae croeso ichi ein ffonio ni am sgwrs. Gallwn fwrw golwg ar ein dyddiadur yn y fan a’r lle a rhoi gwybod ichi’n union pryd y byddwn ni ar gael.
Cysylltwch gyda Thîm Popty Pig:
Ffôn: 07479029298
E-bost: info@poptypig.com
Facebook / Instagram